Mae CLWB yn darparu gofal diogel a hwyl ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau i blant yng nghanolbarth Cymru. Caiff ei redeg gan rieni, ar gyfer rhieni.

Ynglŷn â Gofal Chwarae

Yn Gofal Chwarae, rydyn ni’n credu bod pob plentyn yn haeddu cael cyfle i chwarae,

darganfod a theimlo ei fod yn cael ei gynnwys.

Dan arweiniad Ross Dingle, y Pennaeth Chwarae, rydyn ni’n darparu cyfleoedd

chwarae sy’n ofalgar ac yn canolbwyntio ar y plentyn, a hynny ar gyfer plant rhwng 3

a 12 oed. Mae ein dull wedi ddatblygu o amgylch anghenion, diddordebau a

galluoedd pob plentyn, ac rydyn ni’n eu helpu nhw i ddatblygu hyder, annibyniaeth,

cyfeillgarwch, a sgiliau newydd trwy gyfrwng chwarae cynhwysol.

P’un a yw eich plentyn yn mwynhau chwarae dychmygol, gweithgareddau creadigol,

chwaraeon neu gemau, chwarae anturus yn yr awyr agored neu, yn syml iawn, eisiau

lle diogel i fod yn nhw eu hunain, mae Gofal Chwarae yma i cefnogi bob cam.

ffordd. Rydyn ni’n grŵp o bobl gyda meddwl chwilfrydig sydd wrth ein bodd yn gwrando ar freuddwydion mawr.

Profiadol, gofalgar ac ymroddedig

Mae gan Ross dros12 mlynedd o brofiad ym maes gofal plant a gwaith chwarae, ac

mae ganddo wybodaeth arbenigol yn y meysydd canlynol:

· Gwaith chwarae

· Chwarae cynhwysol

· Datblygiad plentyn trwy chwarae

· Cefnogi plant ag anghenion chwarae unigol

· Creu amgylcheddau diogel, croesawgar i blant dyfu a datblygu.

Cafodd Ross ei enwi yn Weithiwr Chwarae’r Flwyddyn Clybiau Plant Cymru 2022 ac

roedd hefyd yn enillydd Gwobr Gofalu Drwy Gymru Llywodraeth Cymru yn 2023. Mae

Ross hefyd wedi cymhwyso’n llawn fel tiwtor gwaith chwarae ac mae wedi helpu i

ddatblyg sector gwaith chwarae drwy gyflwyno cyrsiau Gwaith Chwarae.

Mae’r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad cryf i ddarparu gofal o ansawdd

uchel a phrofiadau chwarae ystyrlon i bob plentyn.